Darganfod yr Hydref yn yr Ardd – Taith Gerdded (AM DDIM)

Darganfod yr Hydref yn yr Ardd – Taith Gerdded (AM DDIM)


Home » Darganfod yr Hydref yn yr Ardd – Taith Gerdded (AM DDIM)

Ymunwch â thaith gerdded darganfod gyda garddwyr CYDA, gan ddysgu popeth am fywyd yn yr ardd ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.

Mae’r Hydref yn gyfnod pwysig iawn yng ngerddi CYDA. Mae’r garddwyr yn brysur yn casglu hadau ac yn cynaeafu cynnyrch ac mae’r bywyd gwyllt yn paratoi ar gyfer y gaeaf hefyd!

Mae’r daith gerdded hon yn briodol i bobl o bob oed, o’r plant ieuengaf i’w neiniau a’u teidiau.

Gwybodaeth Allweddol

  • Amseroedd cychwyn a gorffen: 2yp tan 3.30yp
  • Yn addas i blant o bob oed
  • Cyfarfod wrth y pwynt cyfarfod ar gyfer teithiau wrth yr orsaf drên uchaf.