Gweithdy Wynebau Clai Pridd (AM DDIM)

Gweithdy Wynebau Clai Pridd (AM DDIM)


Home » Gweithdy Wynebau Clai Pridd (AM DDIM)

O fwd i gampwaith! Dewch i CYDA i gymryd rhan yn y gweithdy creadigol a hwyliog hwn sydd mewn dwy rhan.

Yn gyntaf, byddwn yn dysgu sut i droi’r ddaear dan ein traed yn glai sy’n berffaith i’w ddefnyddio i fodelu, cerflunio ac adeiladu.

Nesaf, byddwn yn defnyddio’r clai yr ydym wedi’i greu gyda deunyddiau wedi’u chwilota o fyd natur i greu creaduriaid coedwig yr hydref. Rhowch ryddid i’ch dychymyg!

Gwybodaeth Allweddol

  • Amseroedd cychwyn a gorffen: 11yb tan 1yp & 2yp tan 4yp
  • Yn addas i blant o bob oed
  • Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y diwrnod
  • Cost: Am ddim gyda’ch tocyn mynediad