Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Dŵr Poeth Solar

Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Dŵr Poeth Solar


Home » Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Dŵr Poeth Solar

Ailystyried darpariaeth ynni aelwydydd – deall sut i ddefnyddio heulwen i gynhyrchu dŵr poeth.

Dysgwch sut y gallwch ddefnyddio systemau gwresogi dŵr solar (thermol solar) i wresogi dŵr yn uniongyrchol. Bydd y cwrs yn ystyried y gwahanol systemau dŵr solar sydd ar gael, sut y maent yn gweithio, a sut i asesu pa un yw’r un gorau ar gyfer eich anghenion chi.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: un diwrnod
  • Dyddiad nesaf: dydd Sadwrn 13eg Mai 2024
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30y.b.a gorffen am 4.00y.p.
  • Ffi: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
  • Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
  • Telerau ac Amodau:
    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Bydd y cwrs hwn yn cynnig y gallu i chi benderfynu a yw system thermol solar yn addas i’ch anghenion, datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur y gostyngiadau o ran allyriadau.

Byddwn yn trafod y gwahanol fathau o systemau gwresogi dŵr thermol sydd ar gael, gan gynnwys archwilio potensial systemau y gallwch eu creu eich hun. Trwy gyfrwng cymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol, byddwn yn ystyried sut y mae’r systemau yn gweithio, gan fwrw golwg ar egwyddorion sylfaenol trosglwyddo gwres ac effeithlonrwydd.

Byddwn yn ystyried dadansoddi adnoddau thermol solar a sut y gallwch ddefnyddio hyn i asesu’r potensial o ran ynni yn eich lleoliad chi. Bydd y cwrs yn ystyried dyluniad, maint, gosod a chysylltiad systemau hefyd felly byddwch yn gadael yn barod i ddewis a gosod eich system eich hun.

Mae gwybodaeth sylfaenol o MS Excel (neu raglen gyfatebol) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.

Searching Availability...