Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: PV Solar
Ebrill, 12 2025Home » Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: PV Solar
Ailfeddwl darpariaeth ynni i aelwydydd – archwilio’r cyfleoedd y mae PV solar yn eu cynnig i aelwydydd.
Paneli solar: ble ddylech chi eu rhoi nhw? Faint o bŵer y byddwch yn ei gael? Faint o arian y byddwch yn ei arbed? Beth fydd eich gostyngiad o ran allyriadau? Nod y cwrs undydd hwn yw ateb y cwestiynau hyn a mwy trwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol.
Gwybodaeth allweddol
- Parhau: un diwrnod
- Dyddiad nesaf: dydd Sadwrn Ebrill 12, 2025
- Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30yb a gorffen am 4.00yp
- Ffi: £125
- Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
- Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Bydd y cwrs hwn yn cynnig y gallu i chi benderfynu a yw paneli solar yn addas i’ch anghenion, datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur y gostyngiadau o ran allyriadau.
Bydd yn cynnig trosolwg o’r gwahanol baneli PV sydd ar gael yn fasnachol, a sut i asesu eu heffeithlonrwydd. Byddwch yn dysgu sut i gynnal dadansoddiad adnodd ffotofoltäig solar, gan gyfrifo’r allbwn blynyddol tebygol ar gyfer safle penodedig.
Bydd eich tiwtor arbenigol, Alan, yn eich tywys trwy’r ffordd o ddewis y lleoliad a’r cyfeiriad gorau, maint y system, a dulliau o gysylltu paneli PV solar. Yn ogystal, byddwch yn cael y cyfle i weld a thrafod y paneli PV solar niferus ar safle CYDA.
Mae gwybodaeth sylfaenol o MS Excel (neu raglen gyfatebol) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.
Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Tyrbinau Gwynt – Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Pympiau Gwres – Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Solar Ffotofoltaidd – Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025
Cyfarfod â’ch tiwtor
Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.
Related events
Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol
6th Mawrth 2025Creu Dodrefn Paledi
8th Mawrth 2025Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Pympiau Gwres
8th Mawrth 2025Searching Availability...