Picture of Ed Parson

Ed Parson

Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr

Ymunodd Ed â CyDA yn dilyn 15 mlynedd yn datblygu profiadau ymwelwyr a chyfleoedd masnachol yn Llyn Brenig a Chwm Elan ar ran Dŵr Cymru. Ac yntau’n gyfrifol am reoli’r gwasanaethau arlwyo, mân-werthu a llety, mae Ed yn rhoi pwys mawr ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein hymwelwyr.

Mae Ed wedi byw yng Nghymru ers astudio Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Datblygodd ddiddordeb ymchwil arbennig mewn troseddau cefn gwlad  ac arwahanrwydd cymdeithasol, a chafodd ei ysbrydoli gan ei brofiad o ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis tipio anghyfreithlon, i edrych ar sut i fynd i’r afael â phroblemau o’r fath yn ystod ei ddiploma ôl-raddedig mewn Rheoli Cefn Gwlad ym Mhrifysgol Bangor. Fel rhan o’r cwrs hwn teithiodd ar ei liwt ei hunan i Andes Perw am fis i astudio effaith eco-dwristiaeth mewn dwy gymuned anghysbell.

Mae ganddo brofiad ymarferol helaeth o weithio mewn amgylchedd canolfan ymwelwyr prysur ynghyd â’r heriau o reoli mynediad ac adloniant ar draws ystâd fawr. Yn ystod ei yrfa gyda Dŵr Cymru datblygodd y timau a’r cyfleusterau yn Llyn Brenig a Chwm Elan drwy ganolbwyntio ar dueddiadau’r farchnad a manteisio ar asedau’r ddau safle. Arweiniodd hyn at brofiad ymwelwyr llawer gwell ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac incwm. Dechreuodd agor trwy gydol y flwyddyn a datblygodd raglen flynyddol o ddigwyddiadau gan gynyddu nifer yr ymwelwyr i 200,000.  Bu’n gyfrifol am hyrwyddo Cwm Elan fel lleoliad ffilmio, gan sicrhau cytundebau gwerthfawr gydag Universal Pictures, The Huntsman: Winter’s War, Top Gear a’r dramâu, The Game ar gyfer BBC a’r Gwyll (Hinterland) ar gyfer S4C. Gweithiodd hefyd i Jaguar Land Rover, a groesawodd 900 o newyddiadurwyr i ginio ym Melin Lifio Elan yn 2013 ar gyfer lansiad byd-eang y Range Rover Sport newydd. Creodd leoliad priodasau newydd ac unigryw ar dwr canol argae Pen y Garreg a chroesawodd dderbyniadau priodas i’r felin lifio hanesyddol.

Mae Ed yn mwynhau datblygu partneriaethau sy’n arwain at gyflawni mwy. Aeth ati’n frwd i ddatblygu Partneriaeth Tirlun Cwm Elan sydd, ar ôl 4 blynedd a nifer o heriau ac anawsterau, wedi llwyddo i sicrhau £1.6 miliwn gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Elan Links, prosiect Gwarchod Treftadaeth Tirlun. Pan oedd yng Nghwm Elan, cadeiriodd Rhwydwaith Twristiaeth Mynyddoedd Cambria mewn partneriaeth ag Ymweld â Chymru, arweiniodd ar ddatblygu’r gyrchfan, sicrhaodd grant ar gyfer rôl ran-amser â thâl i hwyluso digwyddiadau ymgysylltu, a rheolodd y gwaith o gyflwyno’r cynllun gweithredu cyrchfan.

Y tu allan i’r gwaith mae Ed yn mwynhau archwilio lleoliadau diarffordd, cerdded, dringo a chanŵio. Mae hefyd yn dwlu gweithio â phren – o brosiectau adeiladu mawr a cherfio â llif gadwyn i waith mwy cywrain megis gwneud teganau ar gyfer ei ddwy ferch.