Picture of Eileen Kinsman

Eileen Kinsman

Cyd Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro

Mae Eileen yn credu’n gryf yng ngallu a grym mudiadau cymdeithasol i greu newid. Cafodd ei hysbrydoli gyntaf i fod yn Wneuthurwr Newid yn CyDA yn 2001.

Mae Eileen a Paul Booth yn gyfrifol ar y cyd am arwain a rheoli CyDA’n llwyddiannus yn unol â’r cyfeiriad strategol a bennwyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Eileen sy’n gyfrifol am gysylltiadau allanol, polisi a materion cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu, codi arian a datblygu.

Mae Eileen wedi gweithio i elusennau a sefydliadau sy’n ymgyrchu ar faterion amgylcheddol, hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol ers bron 30 mlynedd. Dechreuodd fel codwr arian ar gyfer elusennau cenedlaethol gan gynnwys Amnest Rhyngwladol, Ymgyrch Tibet Rydd ac Achub y Plant.

Symudodd Eileen i Ganolbarth Cymru yn 2001 i gymryd swydd fel Cyfarwyddwr Gweinyddol yn CyDA (un o ddau yn unig i ddal y swydd hon). Gadawodd  i ddysgu yn yr Adran Astudiaethau Sector Gwirfoddol ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl cael ei merch, symudodd i weithio i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ( CGGC), lle bu’n darparu hyfforddiant, cyngor a gwasanaeth ymgynghori i elusennau yng Nghymru. Cafodd ei secondio am flwyddyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle bu’n Bennaeth Materion Allanol. Mae ganddi radd israddedig mewn seicoleg o  Brifysgol Caeredin, MBA o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant a Diploma Uwch Ryngwladol mewn Codi Arian.

Er i Eileen adael CyDA yn 2004, ni allwch byth adael CyDA mewn gwirionedd ac roedd wrth ei bodd i ddychwelyd yn 2018 fel Pennaeth Datblygu.

Y tu allan i’r gwaith mae hi’n mwynhau rhedeg llwybrau, beicio mynydd, syrffio, gwylio adar (shh!) – yn wir, unrhyw beth sy’n golygu bod allan yn yr awyr agored yn mwynhau mynyddoedd a thraethau hardd Cymru.