Picture of Paul Booth

Paul Booth

Cyd Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro

Mae Paul yn frwdfrydig dros yr amgylchedd, pêl-droed a’r theatr, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad fel cyfrifydd siartredig. Yn fwyaf diweddar, treuliodd 18 mlynedd yn arbenigo mewn darparu cefnogaeth a chyngor i’r sector elusennol.

Mae Paul ac Eileen Kinsman yn gyfrifol ar y cyd am arwain a rheoli CyDA’n llwyddiannus yn unol â’r cyfeiriad strategol a bennwyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Magwyd Paul yn Hyde, Swydd Gaer. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth gyda BA mewn Daearyddiaeth Ddynol ac yna aeth i wneud M.Phil mewn Morffoleg Drefol ym Mhrifysgol Birmingham. Hyfforddodd a phasiodd Paul yn gyfrifydd siartredig, a threuliodd 30 mlynedd yn gweithio mewn practisau cyfrifyddu. Yn fwyaf diweddar treuliodd 18 mlynedd fel partner yn Mitchell Charlesworth ym Manceinion yn arbenigo mewn cymorth a chyngor i’r sector elusennol.

Mae Paul hefyd yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Rheoli Credyd ac mae ganddo Ddiploma ICAEW mewn Cyfrifyddu Elusennol. Mae wedi gwirfoddoli am 20 mlynedd fel mentor busnes ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog a bu’n ymddiriedolwr i Groundwork  ym Manceinion, Salford, Stockport, Tameside a Trafford am 5 mlynedd.

Wedi’i fagu ar garreg drws parc gwledig, dechreuodd cariad Paul tuag at yr amgylchedd yn ifanc, ac atgyfnerthwyd hyn gan ei gariad at ddaearyddiaeth yn yr ysgol a’r brifysgol. Mae hefyd yn gefnogwr pêl-droed brwd ac yn mynd i’r theatr yn gyson.