Picture of Sonya Bedford MBE

Sonya Bedford MBE

Ymddiriedolwr

Enillodd Sonya radd MSc mewn Ynni Adnewyddadwy yn CyDA yn 2018 ac mae hi bellach yn Bennaeth Ynni ym Mhartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Stephens Scown ac yn un o ymddiriedolwyr CyDA.

Graddiodd Sonya gydag MSc mewn Ynni Adnewyddadwy o CyDA yn 2018 ac mae bellach yn Bennaeth Ynni ym Mhartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Stephens Scown. Mae Sonya’n arwain tîm o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn polisi a chyfraith ynni. Mae’n cynghori diwydiant ar ofynion cyfreithiol datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys grid, isadeiledd, polisi, trwyddedu a materion cyflenwi.

Hefyd yn 2018, derbyniodd Sonya MBE am ei gwasanaeth i ynni cymunedol, ynghyd â nifer o wobrau amgylcheddol eraill. Yn 2020 penodwyd Sonya i fwrdd ymddiriedolwyr CyDA. Mae hi hefyd yn eistedd ar fyrddau pum grŵp ynni cymunedol ac mae’n un o sylfaenwyr grŵp arloesol ac uchelgeisiol Wedmore Di-garbon.

“Deuthum i CyDA y tro cyntaf pan oeddwn yn saith oed (yn fuan ar ôl ei sefydlu) ac arhosodd y profiad gyda mi. Ar ôl cwpwl o gyrsiau byr, cofrestrais ar y cwrs MSc a threulio pedair blynedd anhygoel yn dysgu a chael fy herio ar bopeth yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy.

Roedd yr MSc yn CyDA yn un o’r ymdrechion mwyaf heriol a gwerth chweil yr wyf wedi eu cyflawni.   Bellach mae dimensiwn newydd i’m gwaith fel cyfreithiwr yn y diwydiant ynni oherwydd yr hyn a ddysgais yn CyDA. Rwyf yn awr yn wirioneddol ddeall technolegau adnewyddadwy a gallaf ddefnyddio’r hyn a ddysgais i wneud fy ngwaith yn llawer mwy gwerthfawr ym mhob ystyr.  Diolch i CyDA, rwyf hefyd wedi datblygu fy ngwaith yn helpu i gyflawni prosiectau di-garbon. Graddedigion CyDA yw’r rhai mwyaf llwyddiannus i mi eu cyfarfod yn y byd cynaliadwy/ynni ac rwy’n meddwl mai’r cyfuniad o wybodaeth dechnolegol a hud CyDA sy’n gyfrifol am hynny!

Yn sgil fy mhrofiad fel myfyriwr a gwybodaeth ac ymroddiad llwyr tîm CyDA, rwyf am barhau i fod yn rhan o ddyfodol CyDA.”