Picture of Tony Gross

Tony Gross

Ymddiriedolwr

Mae Tony yn wyddonydd cymdeithasol sydd â chysylltiad deugain mlynedd â pholisïau, ymchwil a hyfforddiant datblygu cynaliadwy gyda sefydliadau yn y DU a Brasil a sefydliadau rhyngwladol.

Darllenodd Tony lenyddiaeth ym Mhrifysgol Essex, astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Caergrawnt ac astudiodd am DPhil mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae ganddo gysylltiad deugain mlynedd â pholisïau, ymchwil a hyfforddiant datblygu cynaliadwy. Mae wedi gweithio i sefydliadau cymorth ac academaidd yn y DU, cyrff y llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol ym Mrasil a’r Cenhedloedd Unedig ar faterion yn ymwneud â bioamrywiaeth, newid hinsawdd ac adnoddau genetig, gan ganolbwyntio ar gyfiawnder amgylcheddol, bywoliaethau cynaliadwy a chyfranogiad y cyhoedd. Mae wedi helpu gwledydd i ddatblygu eu strategaethau bioamrywiaeth a hyrwyddo cyfranogiad effeithiol actorion anllywodraethol (yn enwedig cymunedau brodorol a thraddodiadol) mewn trafodaethau amgylcheddol. Mae hefyd wedi hyrwyddo’r rhan y gall systemau gwybodaeth traddodiadol ei chwarae wrth lunio polisïau cenedlaetholo a rhyngwladol.

Mae Tony yn sylfaenydd ac yn gyn aelod o fwrdd sefydliad anllywodraethol amlwg ym Mrasil sy’n cefnogi cymunedau brodorol a thraddodiadol a chadwraeth amrywiaeth biolegol a diwylliannol Brasil. Mae ganddo genedligrwydd deuol – Prydain a Brasil, ac mae’n byw yn Rhydychen.