Strategaeth CyDA

2020-2025

Mae cynllun strategol pum mlynedd y Ganolfan yn amlinellu’r meysydd allweddol rydyn ni’n canolbwyntio arnynt wrth i ni weithio tuag at ein gweledigaeth o ddyfodol cynaliadwy i’r ddynoliaeth gyfan fel rhan o fyd naturiol ffyniannus.

Atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth

Rhaid i’r byd gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr net sero erbyn canol y ganrif os ydyn ni am osgoi difrod peryglus i’r hinsawdd. Po gynharaf y cyflawnir hyn, y mwyaf yw ein siawns o gyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang i tua 1.5°C.

Ar yr un pryd, mae angen i ni addasu seilwaith a ffyrdd o fyw i leihau effeithiau lefelau newid hinsawdd nad oes modd eu hosgoi, ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â dinistrio ecosystemau a cholli bioamrywiaeth.

Rôl unigryw CyDA

Gyda i 50 mlynedd o brofiad ym maes atebion amgylcheddol, mae gan CyDA rôl unigryw i’w chwarae. Mae ein strategaeth yn amlinellu’r ffyrdd allweddol rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth, ein rhwydweithiau a’n hadnoddau ar y cyd i helpu i gyflawni cenhadaeth CyDA i ysbrydoli, hysbysu a galluogi’r ddynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Llwythwch Gynllun Strategol 2020-2025 CyDA i lawr

Ysbrydoliaeth, hyfforddiant ac addysg

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwaith CyDA yn canolbwyntio ar ddarparu ysbrydoliaeth, hyfforddiant ac addysg mewn atebion cadarnhaol i gyflymu’r newid i allyriadau nwyon tŷ gwydr net sero.

Mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys ail-ddychmygu ac ailddatblygu canolfan eco CyDA, gyda phrofiad newydd a chyfoes i ymwelwyr. Bydd canolfan sgiliau cynaliadwy newydd yn golygu y bydd llawer mwy o bobl yn gallu manteisio ar y sgiliau a’r wybodaeth i helpu i greu dyfodol di-garbon, a byddwn ni’n parhau i ddatblygu a buddsoddi yn ein cyrsiau ôl-radd arloesol.

Ochr yn ochr â hyn, mae gennym gynlluniau i gynyddu ein gwaith allgymorth i gyflwyno negeseuon a phrofiadau dysgu CyDA i gynulleidfaoedd digidol ehangach.

Canolfan Prydain Ddi-garbon a’r Labordy Arloesi

Bydd ein Canolfan Prydain Ddi-garbon a’n Labordy Arloesi yn gweithio gyda chynghorau, cymunedau a sefydliadau, gan helpu i feithrin eu gallu i weithredu atebion, creu newid systemig a chynyddu’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, a byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid ledled y DU i ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth i gefnogi’r newid i fod yn ddi-garbon.

Buddsoddi yn y sefydliad

Mae buddsoddi yn y sefydliad yn hanfodol i lwyddiant y cynlluniau hyn – gan feithrin gallu, capasiti a chydnerthedd ariannol, gan gynnwys ymdrech ragweithiol i wella amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel yn y sefydliad ac ymysg ein cynulleidfaoedd.

Llwythwch Gynllun Strategol 2020-2025 CyDA i lawr i gael rhagor o wybodaeth.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.