Cogydd

Cogydd


Home » Cogydd

Mae CyDA’n chwilio am Gogydd i ymuno â’n Tîm Arlwyo i gynorthwyo gyda rhedeg a datblygu ein Caffi a’n gwasanaetha arlwyo i safon uchel ac effeithlon.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ac addysgiadol rhyngwladol enwog, yn ganolfan eco sy’n arwain y byd ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Mae CyDA yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys canolfan ymwelwyr lle gall pobl weld yr atebion ar waith, cyrsiau byr a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ar-lein a phreswyl, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd,

Mae ein tîm Prydain Di-garbon yn cyhoeddi gwaith ymchwil ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda chynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i’w helpu i drawsnewid systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth.

Manylion y Swydd:

  • Manylion Swydd: CHE240409
  • Maes Cyfrifoldeb: Caffi CyDA
  • Oriau: Yn amrywio – 30 awr yr wythnos
  • Atebol i: Rheolwr Bwyd a Diod
  • Cyfrifol am: Staff Arlwyo
  • Lleoliad: Fel rheol, ar safle’r cwmni yn Llwyngwern.
  • Math o gontract Parhaol
  • Diwrnodau gweithio: Dros 7 diwrnod ar sail rota, gan gynnwys gyda’r nos a boreau cynnar. Efallai bydd angen gweithio sifftiau hollt, yn ddibynnol ar ofynion busnes.

Cyflog a buddion gweithiwr:

£24,174.50 y flwyddyn pro rata

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn pro rata, yn ogystal â gwyliau banc (7- 9 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CAT hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CAT;
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CAT;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CAT;
  • Cyfle i ddilyn 2 gwrs byr CAT y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 26 Ebrill 2024

Cyfweliadau i’w cynnal: Wythnos yn dechrau 29 Ebrill 2024 (ar safle)

Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib

Trosolwg o’r Swydd

Nod y tîm Arlwyo yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ar gyfer ei holl gwsmeriaid, sy’n cynnwys ymwelwyr dydd, grwpiau ysgol, myfyrwyr, pobl ar gyrsiau, gwesteion Gwely a Brecwast a chynrychiolwyr cynadleddau a digwyddiadau wrth weithredu o fewn polisi masnachu moesegol a chynaliadwy. Mae’r meysydd gweithredu cyfredol yn cynnwys y prif gaffi a derbyniadau bwffe yn adeilad WISE.

Mae’r Cogydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rhedeg a datblygu’r caffi a’r gwasanaethau arlwyo i safon uchel, effeithlon a phroffidiol, gan dderbyn adborth rhagorol gan gwsmeriaid, wrth weithredu o fewn polisïau amgylcheddol a chaffael CyDA. Mae’r rôl yn cyfuno dyletswyddau arlwyo cyffredinol, yn y gegin a blaen y tŷ, fel ei gilydd.

Prif Gyfrifoldebau

  • Cynorthwyo gyda goruchwylio a datblygu’r holl arlwyo
  • Cynorthwyo gyda gosod safonau priodol
  • Cynorthwyo gydag adolygu a datblygu ansawdd ac ystod y cynnyrch a’r gwasanaethau yn barhaol, cynyddu proffidioldeb a bodlonrwydd cwsmeriaid
  • Gofalu bod gan y gwasanaethau arlwyo yn CyDA  y nifer priodol o staff
  • Cynnal a datblygu safonau uchel wrth baratoi bwyd, gweini a chyflwyno prydau a byrbrydau
  • Bod yn greadigol a dyfeisgar wrth gyflwyno bwyd ar gyfer gwahanol gwsmeriaid a’u gwahanol ofynion arlwyo
  • Sicrhau bod amrywiaeth dda o brydau a byrbrydau, sydd wedi’u paratoi yn ffres, ar gael i’w gweini ar gownteri’r bwyty
  • Cynnal safonau uchel wrth goginio a gweini prydau i gwsmeriaid a grwpiau mawr
  • Bod yn amryddawn a dyfeisgar wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau arlwyo i gwsmeriaid, gan gynnwys darpariaeth hunanwasanaeth ar gyfer grwpiau, bwffes neu brydau wedi’u harchebu ymlaen llaw, a chymryd rhan mewn cynllunio bwydlenni
  • Hwyluso gweithrediad llyfn ac effeithiol caffi CyDA o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys:
    • gweini, cydgysylltu â chwsmeriaid a’r holl weithrediadau blaen y tŷ
    • defnyddio til, gwerthu dros y cownter a chyfrif yr arian
    • gweithrediadau’r gegin
    • cadw’r ardaloedd arlwyo yn ddiogel ac yn lân
    • cydymffurfio â HACCP a’r holl ofynion Iechyd Amgylcheddol
  •  Cynorthwyo gydag adnewyddu a chynnal lefelau priodol o stoc arlwyo
  • Cynorthwyo gyda hyfforddi, datblygu ac ysgogi staff
  • Sicrhau cydymffurfiad â pholisïau CyDA gan gynnwys Rheoli Gwastraff ac Iechyd a Diogelwch.
  • Cynorthwyo gyda chynnal a chadw strwythur a chyfleusterau’r bwyty, fel rhan o dîm y bwyty
  • Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill fel y’u diffinnir gan y Rheolwr Arlwyo

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Swydd Disgrifiad: COGYDD

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: