GWIRFODDOLI YN CyDA
Mae angen mwy o wneuthurwyr newid arnom ni. Mae gwirfoddoli yn CyDA yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ac i gefnogi ein gwaith drwy gynnig atebion ymarferol a darparu dysgu ymarferol i helpu i greu byd di-garbon.

GWIRFODDOLWR GERDDI

COETIR A DŴR
Gwnewch gais i wirfoddoli yn CyDA
Gwirfoddolwyr dydd
Os ydych yn byw’n lleol neu wedi trefnu eich llety eich hun gerllaw ac â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr dydd rheolaidd, nid oes angen gwneud cais. I gysylltu ynglŷn â bod yn wirfoddolwr dydd, e-bostiwch volunteering@cat.org.uk
Dysgwch fwy am wirfoddoli dydd
Diwrnod Gwirfoddoli Misol
Ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis, bydd CyDA yn croesawu gwirfoddolwyr i ddod draw i CyDA i roi help llaw yn ein gerddi a’n coetiroedd. Rydym yn gyffrous i groesawu pobl o bob cefndir. Does dim angen arbenigo, i gyd sydd ei hangen yw angerdd tuag at gynaliadwyedd a bod allan ym myd natur!
Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd am ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl o’r un anian a chydweithio ar ddatrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Yn y gorffennol, mae gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau o bob lliw a llun gan weithio ochr yn ochr â’n gwirfoddolwyr preswyl ar brosiectau’n amrywio o greu gwrychoedd farw yn y goedwig i wehyddu strwythur helyg byw yn ein gerddi organig.
I ddarganfod mwy o wybodaeth ac i archebu lle ar ein rhaglen wirfoddoli misol cysylltwch â Holly Owen drwy anfon e-bost i volunteering@cat.org.uk.
Gwirfoddolwyr preswyl chwe mis
Pan fydd ceisiadau ar agor, llenwch y ffurflen gais i wirfoddolwyr preswyl chwe mis a’i dychwelyd at volunteering@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau a nodir.
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, mae’r rhestr fer yn cael ei llunio, pan fydd goruchwylwyr y rolau gwahanol yn gwahodd uchafswm o 16 o bobl i ymuno â ni am wythnos brawf yma yn CyDA.
Dysgwch fwy am ddod yn wirfoddolwr preswyl chwe mis
Dyddiadau allweddol
- Mae ceisiadau ar gyfer lleoliad Haf 2025 eisoes wedi cau
- Bydd yr wythnos brawf ar gyfer y lleoliad hwn rhwng dydd Llun 24-28 Mawrth 2025.
- Bydd lleoliad Haf 2025 yn dechrau ar 28 Ebrill.
Yn anffodus, ar yr adeg hon, ni allwn dderbyn ceisiadau am wirfoddolwyr hirdymor wrth y rhai sydd o dan 18 oed neu wladolion tramor. Ymddiheurwn am unrhyw siom y gall hyn ei achosi.
E-bostiwch ceisiadau gorffenedig at volunteering@cat.org.uk
E-bostiwch ymholiadau at volunteering@cat.org.uk
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais Gwirfoddoli am 6 mis
Beth mae ein cyn wirfoddolwyr wedi’i ddweud
Fel rhywun newidiodd yrfa hanner ffordd drwy fywyd, mae dod i fyw ac i weithio yn CyDA fel gwirfoddolwr preswyl wedi newid fy mywyd heb os. Mae wedi fy helpu i fagu gwreiddiau mewn rhan newydd o’r byd ar ôl dau ddegawd yn Llundain, ac rydw i bellach yn bwriadu astudio yma a datblygu gyrfa sy'n canolbwyntio’n fwy ar natur. Mae holl staff y safle a’r gwirfoddolwyr yn gofalu am ei gilydd, mae bron iawn fel bod yn rhan o deulu estynedig. Rydw i wedi caru fy amser yn CyDA ac yn llawn cyffro am yr hyn sydd i ddod nesa.

Joe Downie, Gwirfoddolwr Coetir a Dŵr (Hydref 2021 – Medi 2022)
Fe wnaeth CyDA ganiatáu i fi gael y gofod a'r amser i ddatgysylltu ac i fod, ond yn y pen draw ailgysylltu â natur a fi fy hun. Rhoddodd fy nghyfnod o wirfoddoli fwy o eglurder i fi o ran ble ro’n i eisiau mynd mewn bywyd, ond yn bwysicach fyth, pwy o’n i eisiau bod. Rwy’n fythol ddiolchgar am y profiadau ges i a’r bobl wnes i gwrdd â nhw ar hyd y daith. Diolch CyDA... am fod yn ofod o adfywio, natur a'r ysbryd dynol.

Julia Robertson, Gwirfoddolwr Coetir a Dŵr (Hydref 2021 – Mawrth 2022)
Mae staff a gwirfoddolwyr CyDA wir yn credu yn yr hyn maen nhw’n ei wneud - rhywbeth nad ydych chi’n ei weld mewn llawer o lefydd gwaith. Mae'n lle gwirioneddol ysbrydoledig. Sbardun i gynifer o bobl mewn cymaint o ffyrdd, dyna pam mae cymaint o wirfoddolwyr yn dymuno y gallan nhw aros.

Rachel Solnick – Gwirfoddolwr Gerddi
Mae Gwirfoddoli yn CyDa wedi’i elwa gan Gyngor gweithredu Gwirfoddoli Cymru.
CYSYLLTU Â NI
Angen mwy o wybodaeth neu rywfaint o help? Mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu nôl.