Gwirfoddolwr Dŵr a Choetiroedd

Gwirfoddolwr Dŵr a Choetiroedd

Home » Y Diweddaraf » Gwirfoddolwch » Gwirfoddolwr Dŵr a Choetiroedd

Fel aelod o’r Tîm Coetiroedd a Dŵr, byddwch yn helpu i reoli ein coetiroedd a’n systemau dŵr a glanweithdra oddi ar y grid, a helpu i wneud gwelliannau o amgylch y safle drwy ddefnyddio ein hadnoddau naturiol.

Beth mae CyDA yn ei wneud?

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.

O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.

Cliciwch fan hyn i ddysgu mwy

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Fel aelod o’r Tîm Coetiroedd a Dŵr, byddwch yn helpu i reoli amrywiaeth o gynefinoedd o amgylch safle CyDA a’n coetir cyfagos, Coed Gwern. Byddwch hefyd yn helpu i gynnal ein systemau dŵr a glanweithdra unigryw oddi ar y grid.

Mae gwirfoddolwyr preswyl yn helpu o 09:00 i 17:00 bum diwrnod yr wythnos, gydag egwyliau, gan weithio fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli dydd rheolaidd, cysylltwch i drafod dyddiau ac amseroedd – volunteering@cat.org.uk

Dŵr

Ar gyfer ein holl ofynion dŵr a glanweithdra, mae CyDA oddi ar y grid yn gyfan gwbl. Fel rhan o’r gwaith o gynnal a chadw ein systemau, byddwch yn dysgu sut rydyn ni’n hidlo dŵr yfed o’n cronfa ddŵr drwy ddefnyddio hidlwyr tywod a hidlwyr UV, a sut rydyn ni’n prosesu ein dŵr llwyd a du gan ddefnyddio toiledau compost a dwy system gwely cyrs ar wahân.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynnal a chadw systemau dŵr a glanweithdra CyDA oddi ar y grid e.e. newid a gosod pibellau, newid hidlwyr, cynnal a chadw’r gwelyau cyrs).
  • Cynnal trefn brofi i sefydlu effeithiolrwydd triniaeth systemau
  • Edrych am feysydd i wella effeithiolrwydd y systemau.
  • Gweithio gydag aelodau eraill y tîm dŵr a glanweithdra i helpu i ddangos y systemau i ymwelwyr.
  • Helpu i ddatblygu deunydd dehongli i alluogi ymwelwyr i ddeall y stori ddŵr.
  • Sgiliau tirwedd ac ystâd ymarferol, e.e. adeiladu a gosod ffensys a chlwydi.

Coetiroedd

Caiff ein coetiroedd eu rheoli’n gynaliadwy drwy ddefnyddio technegau effaith isel a chynaliadwy, y bydd cyfle i chi ddysgu amdanyn nhw yn ogystal â datblygu’r sgiliau ymarferol gofynnol, gan ein helpu i gydbwyso’r gofynion cystadleuol am fioamrywiaeth, cynnyrch coetiroedd (gan gynnwys coed tân a deunyddiau adeiladu) a defnydd hamdden ac addysgol.

Sylwer bod y rôl hon yn go wahanol rhwng yr haf a’r gaeaf.

Mae gwirfoddolwyr yr haf yn dueddol o weithio llawer mwy ar gynnal a chadw seilwaith a gwelliannau (adeiladau meinciau, gosod neu atgyweirio ffensys, rheoli llwybrau troed, etc.), gwella bioamrywiaeth (tirfesur, adeiladu a gosod blychau adar/ystlumod/pathewod), a gwelliannau i gynefinoedd (fel pladurio dolydd a thynnu rhododendron).

Mae gwirfoddolwyr y gaeaf yn dueddol o gyflawni mwy o waith sy’n ymwneud â choedwigaeth, gan fwyaf yn cynorthwyo gyda thorri coed a phrosesu cynnyrch coetir, bôn-docio, plannu coed a phlygu perthi.

Beth mae CyDA yn ei ddarparu?

  • Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl y gofyn
  • Cefnogaeth a chyfarwyddyd gan oruchwylydd garddio
  • Amgylchedd i ddatblygu sgiliau newydd a sgiliau cyfredol
  • Y cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • Llety am ddim ar y safle
  • Brecwast, cinio a swper am ddim
  • Aelodaeth CyDA am ddim am flwyddyn
  • Gostyngiad o 40% oddi ar y rhan fwyaf o gynnyrch ein caffi a’n siop
  • Un cwrs byr am ddim a gostyngiad o 50% oddi ar yr ail gwrs
  • Tystysgrif ar gyfer eich cyfraniad at CyDA

Am beth rydyn ni’n chwilio?

Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:

Hanfodol:

  • Eisiau gwneud ymrwymiad rheolaidd i wirfoddoli gyda CyDA.
  • Â phrofiad neu’n gyfforddus yn:
  • Gweithio yn yr awyr agored (beth bynnag bo’r tywydd)
  • Byw gydag eraill.
  • Yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan.
  • Yn gyfeillgar ac yn parchu eraill.
  • Yn ddibynadwy.
  • Yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau a gweithdrefnau CyDA.

Dymunol:

  • Meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CyDA.
  • Meddu ar rywfaint o wybodaeth flaenorol am reoli safleoedd neu gadwraeth (nid yw hyn yn hanfodol oherwydd gellir darparu’r holl hyfforddiant).
  • Meddu ar sgiliau damcaniaethol ac academaidd ac yn awyddus i ddatblygu gwybodaeth ymarferol a thrwy brofiad.
  • Meddu ar brofiad gosod plymio.

Bydd angen y brechiadau a’r pigiadau atgyfnerthu diweddaraf canlynol arnoch chi:

  • Difftheria
  • Polio
  • Tetanws
  • Hepatitis A

Os na allwch neu os nad ydych yn dymuno cael unrhyw un o’r rhain, bydd gofyn i chi lofnodi ymwadiad.

Gwnewch gais i fod yn wirfoddolwr gyda CyDA