Gwirfoddoli Preswyl Hirdymor

Gwirfoddoli Preswyl Hirdymor

Home » Y Diweddaraf » Gwirfoddolwch » Gwirfoddoli Preswyl Hirdymor

Datblygwch sgiliau ymarferol mewn cynaliadwyedd, gan weithio gyda thîm gwych mewn lleoliad hyfryd tra’n cefnogi gwaith CyDA.

Beth mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn ei wneud?

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.

O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.

Fel gwirfoddolwr, byddwch yn rhan hollbwysig o’r sefydliad hwn, ym mha bynnag adran rydych chi’n gweithio ynddi na pha mor hir rydych chi’n gwirfoddoli.

Sut mae gwirfoddoli preswyl hirdymor yn gweithio?

Mae gennym ddwy garfan o wirfoddolwyr: haf a gaeaf.  Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael am y cyfnod llawn er mwyn cael eu hystyried (ac eithrio cyfnodau rhesymol o wyliau/amser i ffwrdd, wrth gwrs!).

Rhaid i holl wirfoddolwyr preswyl weithio’n llawn amser, gan amlaf 9am–5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae egwyl te bore a phrynhawn am 11am a 4pm, ac awr ginio am 1pm.

Mae gwirfoddolwyr hirdymor yn byw yn ein llety pwrpasol i wirfoddolwyr ar y safle, naill ai yn Di’s Diner neu’r Hobbit Hole.

Mae Di’s Diner yn cynnwys pum ystafell sengl fach a dwy ystafell i ddau, dwy ystafell ymolchi i’w rhannu, ardal balconi preifat, ac ystafell gyffredin sy’n cael ei rhannu gyda soffas, cyfrifiadur, bwrdd bwyta a chegin fach.

Mae’r Hobbit Hole yn dŷ bach ond clyd sy’n cynnwys gwely dwbl (yn ddelfrydol ar gyfer cyplau), ystafell fyw/ystafell fwyta gyda llosgydd boncyffion, ystafell ymolchi, toiled compost, cegin a balconi.

Ble bynnag y byddwch chi’n byw, darperir ar gyfer pob pryd yn ein caffi llysieuol ar y safle.

Beth mae CyDA yn ei ddarparu?

  • Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl yr angen.
  • Cefnogaeth a chyfarwyddyd gan oruchwyliwr yn eich adran eich hun.
  • Amgylchedd i ddysgu sgiliau newydd a magu gwybodaeth werthfawr.
  • Y cyfle i gwrdd â phobl newydd o’r un anian.
  • Bwyd a llety (disgrifir uchod).
  • Gostyngiad o 40% ar y rhan fwyaf o gynnyrch yn ein siop.
  • Gostyngiad ar gyrsiau byr: un cwrs byr am ddim, un arall gyda gostyngiad o 50% (sylwer bod hyn ond yn berthnasol i gyrsiau sy’n cael eu cynnal gan CyDA, ac nid cyrsiau sy’n cael eu rhedeg yn allanol ond eu cynnal yn CyDA.
  • Tystysgrif o’ch cyfraniad at CyDA.
  • Aelodau CyDA am ddim am flwyddyn, gan gynnwys gwahoddiad i Gynhadledd Flynyddol yr Aelodau a chopïau o gylchgrawn chwarterol CyDA Clean Slate.

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:

  • Yn barod i wneud ymrwymiad llawn chwe mis i wirfoddoli yn CyDA.
  • Yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan mewn tasgau, boed ar eu pen eu hunain neu mewn tîm.
  • Yn gyfeillgar ac yn parchu eraill.
  • Yn ddibynadwy.
  • Yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau a gweithdrefnau CyDA.
  • Meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CyDA.

Mae’n bosibl y bydd gan adrannau ofynion eraill hefyd, y manylir arnyn nhw yn y tudalennau rôl-ddisgrifiadau ar ein gwefan.

Gwnewch gais i fod yn wirfoddolwr gyda CyDA