Gwirfoddolwr Gerddi

Gwirfoddolwr Gerddi

Home » Y Diweddaraf » Gwirfoddolwch » Gwirfoddolwr Gerddi

Dewch yn wirfoddolwr Gerddi CyDA am gyfle i weithio gyda’n tîm gerddi profiadol a dysgu oddi wrthyn nhw, i gwrdd â phobl ysbrydoledig a diddorol ac i ddod yn rhan annatod o’r hyn y mae CyDA yn ei wneud.

Beth mae CyDA yn ei wneud?

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.

O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.

Cliciwch fan hyn i ddysgu mwy

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Fel aelod o’r Tîm Garddio, byddwch yn helpu i gadw’r gerddi arddangos o amgylch ein canolfan ymwelwyr yn ddiddorol, yn hardd ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cadw’n dda.

Mae gwirfoddolwyr preswyl yn helpu o 09:00 i 17:00 bum diwrnod yr wythnos, gydag egwyliau, gan weithio fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener. Serch hynny, os ydych ar y rota penwythnos i ddyfrhau’r gerddi, cewch ddiwrnod i ffwrdd yn ystod yr wythnos.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli dydd rheolaidd, cysylltwch i drafod dyddiau ac amseroedd – volunteering@cat.org.uk

Mae’r tasgau garddio yn cynnwys:

Haf (Ebrill – Medi)

  • Cyfrifoldebau dyddiol fel dyfrhau, agor a chau twnelau polythen
  • Defnyddio magwrfeydd i dyfu planhigion o had
  • Plannu tu allan
  • Compostio
  • Rhoi help llaw gyda gweithgareddau i blant ac ymgysylltu ag ymwelwyr
  • Chwynnu’r ganolfan ymwelwyr a’i chadw’n daclus (mae hyn yn aml yn cynnwys chwynnu’r llwybrau)
  • Cynnal arddangosfeydd yr ardd addysgol
  • Darparu rhywfaint o gynnyrch a blodau ffres ar gyfer caffi CyDA

Gaeaf (Hydref-Mawrth)

  • Cyfrifoldebau dyddiol a allai gynnwys dyfrhau, agor a chau twnelau polythen
  • Yr olaf o gynaeafau’r haf
  • Paratoi’r twnelau polythen a’r gerddi ar gyfer y gaeaf
  • Rhoi help llaw gyda gweithgareddau i blant ac ymgysylltu ag ymwelwyr
  • Gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf a gwaith tirlunio
  • Tocio
  • Compostio a llwydni dail
  • Adeiladu magwrfeydd a dechrau hau
  • Tacluso’r gerddi yn y gwanwyn

Beth mae CyDA yn ei ddarparu?

  • Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl y gofyn
  •  Cefnogaeth a chyfarwyddyd gan oruchwylydd garddio
  • Amgylchedd i ddatblygu sgiliau newydd a sgiliau cyfredol
  • Y cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • Llety am ddim ar y safle
  • Brecwast, cinio a swper am ddim
  • Aelodaeth CyDA am ddim am flwyddyn
  • Gostyngiad o 40% oddi ar y rhan fwyaf o gynnyrch ein caffi a’n siop
  • Un cwrs byr am ddim a gostyngiad o 50% oddi ar yr ail gwrs
  • Tystysgrif ar gyfer eich cyfraniad at CyDA

Am beth rydyn ni’n chwilio?

Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:

  • â phrofiad o weithio yn yr awyr agored neu’n gyfforddus â gwneud hynny (beth bynnag bo’r tywydd)
  • yn mwynhau byw a gwirfoddoli gydag eraill
  • yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan
  • yn gyfeillgar ac yn parchu eraill
  • yn ddibynadwy
  • yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau CyDA
  • meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CyDA.

Bydd angen y brechiadau a’r pigiadau atgyfnerthu diweddaraf canlynol arnoch chi:

  • Difftheria
  • Polio
  • Tetanws
  • Hepatitis A

Os na allwch neu os nad ydych yn dymuno cael unrhyw un o’r rhain, bydd gofyn i chi lofnodi ymwadiad.

Gwnewch gais i fod yn wirfoddolwr gyda CyDA