Gwirfoddoli Dydd

Gwirfoddoli Dydd

Home » Y Diweddaraf » Gwirfoddolwch » Gwirfoddoli Dydd

Cefnogwch waith CyDA drwy rannu atebion cynaliadwy ymarferol, gweithio ochr yn ochr â thîm gwych a dysgu sgiliau newydd fel gwirfoddolwr dydd CyDA.

Beth mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn ei wneud?

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.

O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.

Fel gwirfoddolwr, byddwch yn rhan hollbwysig o’r sefydliad hwn, ym mha bynnag adran rydych chi’n gweithio neu ba mor hir rydych chi’n gwirfoddoli.

Sut mae gwirfoddoli dydd yn gweithio?

Mae’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gweithio diwrnod llawn, fel arfer rhwng 9am a 5pm unrhyw ddiwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener, er bod gan rai adrannau drefniadau ychydig yn wahanol (e.e. gwaith yn y gerddi 9.30am-5.30pm).

Mae egwyl te yn y bore a’r prynhawn am 11am a 4pm, ac awr ginio am 1pm. Darperir cinio am ddim yn ein caffi ar y safle i unrhyw wirfoddolwr sy’n gweithio diwrnod llawn.

Gwirfoddoli dydd yw ein hopsiwn mwyaf hyblyg, sy’n caniatáu i chi weithio diwrnodau llawn, ambell ddiwrnod hwnt ac yma neu ambell awr hyd yn oed (os yw eich goruchwylydd yn cytuno). Mae pa mor aml rydych chi’n gwirfoddoli hefyd yn hyblyg yn amodol ar drafodaeth gyda’ch goruchwyliwr, a gall fod yn unrhyw beth o bum niwrnod yr wythnos i un diwrnod y mis neu hyd yn oed yn llai.

Rydyn ni hefyd yn talu treuliau teithio i wirfoddolwyr dydd (gweler isod).

Beth mae CyDA yn ei ddarparu?

  • Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl yr angen.
  • Cefnogaeth a chyfarwyddyd gan oruchwyliwr yn eich adran eich hun.
  • Amgylchedd i ddysgu sgiliau newydd a magu gwybodaeth werthfawr.
  • Y cyfle i gwrdd â phobl newydd o’r un anian.
  • Cinio am ddim yn ein caffi ar y safle am bob diwrnod llawn sy’n cael ei weithio.
  • Gostyngiad o 40% ar y rhan fwyaf o gynnyrch yn ein siop.
  • Gostyngiad ar gyrsiau byr:
    • ≥250 awr o wasanaeth = gostyngiad o 30% oddi ar ddau gwrs
    • ≥500 awr o wasanaeth = gostyngiad o 50% oddi ar ddau gwrs
  • Treuliau teithio:
    • Car 40c y filltir
    • Beic modur 24c y filltir
    • Beic 20c y filltir
    • Tocyn trên neu docyn bws
    • Hyd at uchafswm o £16.60 yr wythnos

Am beth rydyn ni’n chwilio?

Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:

  • Yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan mewn tasgau, boed ar eu pen eu hunain neu mewn tîm.
  • Yn gyfeillgar ac yn parchu eraill.
  • Yn ddibynadwy.
  • Yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau a gweithdrefnau CyDA.
  • Meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CyDA.

Mae’n bosibl y bydd gan adrannau ofynion eraill hefyd, y manylir arnyn nhw ar dudalennau’r rôl-ddisgrifiadau ar ein gwefan.

Gallwn dderbyn ceisiadau am wirfoddolwyr dydd, sydd hefyd yn cael eu galw’n wirfoddolwyr rheolaidd (cyson), unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Cysylltu

Os ydych yn byw’n lleol neu wedi trefnu eich llety eich hun gerllaw ac â diddordeb mewn gwirfoddoli dydd, nid oes angen gwneud cais. I gysylltu am wirfoddoli dydd, e-bostiwch volunteering@cat.org.uk.