Rheilffordd y Clogwyn

Rheilffordd y Clogwyn

Home » Ymweld â CyDA » Rheilffordd y Clogwyn

Cyrhaeddwch mewn steil ar ein rheilffordd ffwnicwlar cydbwysedd dŵr!

Mae ein rheilffordd cydbwysedd dŵr yn un o’r rhai mwyaf serth yn y byd gyda graddiant o 35°. Mae’n syml – parciwch yn y maes parcio gwaelod, talwch am eich tocyn mynediad, dilynwch y cyfarwyddiadau i’r cerbyd ac yna ymlaciwch a mwynhau’r olygfa hyfryd wrth i chi ddringo gan bwyll.

Sut mae’n gweithio?

Cysylltir y ddau gerbyd gan gebl dur.

Pan fyddwch yn barod i fynd, mae tanc yn y cerbyd sydd ar y top yn llenwi â dŵr o’r gronfa ddŵr, tra bod tanc yn y cerbyd sydd ar y gwaelod yn cael ei wacau.

Pan fydd y cerbyd uchaf yn ddigon trwm i dynnu’r cerbyd isaf i fyny, mae’r brêc yn cael ei ryddhau ac mae disgyrchiant yn gwneud y gweddill.