Ynni adnewyddadwy i Aelwydydd: Micro Hydro
Mai, 24 2024Home » Ynni adnewyddadwy i Aelwydydd: Micro Hydro
Ailystyried darparu ynni i aelwydydd – archwilio cynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbinau micro hydro yn ystod y cwrs undydd byr hwn.
Er gwaethaf y gost uchel i’w thalu ymlaen llaw, gall tyrbinau micro hydro fod yn ffurf gyfleus o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Yn CYDA, mae cynhyrchu trydan gan ddefnyddio pŵer Hydro wedi bod yn rhan bwysig o’n cymysgedd trydan ers y 1970au, ac mae’n caniatáu i ni fanteisio ar dopograffeg a systemau dŵr safle CYDA.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn ystyried y gwyddoniaeth, gan archwilio’r hyn sy’n gwneud safle da ar gyfer cynllun micro hydro. Byddwch yn gweld proses gynhyrchu hydro ar raddfa fach yn gweithio, gan ystyried a yw micro hydro yn ddewis addas i chi.
Gwybodaeth allweddol
- Parhau: un diwrnod
- Dyddiad nesaf: d
- Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30y.b.a gorffen am 4.00y.p.
- Ffi: £125
- Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
- Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn ystyried y wybodaeth sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn asesu safle, gwerthuso’r ynni posibl a allai fod ar gael, a phenderfynu ar y math perthnasol o dyrbin. Yn ôl ei natur, mae’n gwrs technegol a rhifol ar y cyfan.
Bydd yr agweddau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys:
- Topograffeg safle
- Asesiad o’r dalgylch a’r glawiad
- Rhediad yr afon a systemau cronni
- Gofynion llif cydadfer
- Cyfradd màs-lifiad a phen sydd ar gael
- Ffrithiant pibellau a Chyflymder Penodol (gwerthusiad tyrbin)
- Nodweddion generadur sy’n ofynnol
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylai’r myfyriwr fod yn gallu cwblhau asesiad safle a thrafod amrediad y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn penderfynu a yw hi’n werth canlyn prosiect neu beidio. Bydd angen trafod cysylltiad â’r grid a thynnu dŵr gyda’r awdurdodau perthnasol.
Cyfarfod â’ch tiwtor
Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.
Related events
Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi – Insiwleiddio
23rd Tachwedd 2024Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys
26th Tachwedd 2024Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol
6th Rhagfyr 2024Searching Availability...