Lles Gwyllt – Diwrnod Allan ym myd Natur

Lles Gwyllt – Diwrnod Allan ym myd Natur


Home » Lles Gwyllt – Diwrnod Allan ym myd Natur

Ymunwch â ni yn CYDA am enciliad lles, lle y bydd natur wrth wraidd popeth.

Cynhelir diwrnod a fydd yn canolbwyntio ar les a chysylltiad â byd natur yng nghoetir brydferth CYDA a reolir mewn ffordd gynaliadwy.

Cynlluniwyd y profiadau a gynigir trwy gydol y diwrnod i gynorthwyo eich taith tuag at feithrin eich ymarfer eich hun a’ch gwerthfawrogiad o’r byd naturiol.

Byddwch yn cychwyn y diwrnod wrth archwilio mannau mwy gwyllt CYDA yn hamddenol, a byddwch yn dod yn gyffyrddus wrth ddefnyddio eich synhwyrau i arafu a phrofi’r byd naturiol.

Byddwch yn parhau gyda chyfres o weithdai ymwybyddiaeth o fyd natur yn unigol ac mewn grŵp, a bydd amser pwysig i fyfyrio trwy gydol y diwrnod.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  un diwrnod:
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 10am ac yn gorffen am 5:00pm
  • Ffi:  £125
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, cinio
  • Bydd angen esgidiau a dillad priodol arnoch er mwyn treulio diwrnod allan yng ngerddi CYDA.
  • Amodau a Thelerau:

Searching Availability...