Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi – Insiwleiddio
Tachwedd, 23 2024Home » Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi – Insiwleiddio
Ailfeddwl defnydd ynni mewn cartrefi – pwysigrwydd insiwleiddio.
Mae llawer o adeiladau yn y DU wedi’u hinsiwleiddio’n wael ac yn ddrafftiog, sy’n arwain at golli gwres a galw uwch am ynni. Er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau allyriadau’n ddioed, mae’n rhaid i ni newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy a lleihau ein defnydd o ynni.
Bydd gwella’r insiwleiddio ein cartrefi a’n hadeiladau yn eu gwneud yn fwy cyfforddus i fyw ynddynt ac yn ein helpu i sicrhau lleihad aruthrol yn ein defnydd o ynni. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddibynnu ar ynni adnewyddadwy ar raddfa fach neu i leihau ein biliau ynni.
Gwybodaeth allweddol
- Parhau: un diwrnod
- Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 10yb a gorffen am 4.30yp
- Ffi: £125
- Yn cynnwys: hyfforddiant a’r holl ddeunyddiau
- Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd y cwrs yn cynnig canllaw hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo colled gwres a deall gwerthoedd ‘R’ ac ‘U’. Byddwch yn dysgu sut i ganfod drafftiau a gollyngiadau aer, a sut y gallai eu hatal arwain at well cysur thermol, effeithlonrwydd ac arbedion ariannol.
Trwy gymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol, byddwch hefyd yn archwilio gwahanol fathau o insiwleiddio ac yn dysgu pa ddeunydd insiwleiddio sy’n briodol ar gyfer gwahanol leoliadau.
I unrhyw un sydd am weithredu oddi-ar-y-grid neu ddibynnu’n bennaf ar ei ffynhonnell ynni adnewyddadwy eu hunain, bydd lleihau eich defnydd o ynni yn allweddol i’ch llwyddiant, gan eich helpu i gynllunio a chael gwell dealltwriaeth am ba ynni sydd ei angen arnoch a pha system sy’n addas i chi.
Mae gwybodaeth sylfaenol am MS Excel (neu debyg) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.
Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Tyrbinau Gwynt
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Pympiau Gwres
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Solar Ffotofoltaidd
- Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Dŵr Twym Solar
Cyfarfod â’ch tiwtor
Mae Alan Owen yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.
Related events
Creu Dodrefn Paledi
8th Chwefror 2025Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol
6th Mawrth 2025Creu Dodrefn Paledi
8th Mawrth 2025Searching Availability...