Ynni adnewyddadwy i Aelwydydd: Micro Hydro

Ynni adnewyddadwy i Aelwydydd: Micro Hydro


Home » Ynni adnewyddadwy i Aelwydydd: Micro Hydro

Ailystyried darparu ynni i aelwydydd – archwilio cynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbinau micro hydro yn ystod y cwrs undydd byr hwn.

Er gwaethaf y gost uchel i’w thalu ymlaen llaw, gall tyrbinau micro hydro fod yn ffurf gyfleus o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach.  Yn CYDA, mae cynhyrchu trydan gan ddefnyddio pŵer Hydro wedi bod yn rhan bwysig o’n cymysgedd trydan ers y 1970au, ac mae’n caniatáu i ni fanteisio ar dopograffeg a systemau dŵr safle CYDA.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn ystyried y gwyddoniaeth, gan archwilio’r hyn sy’n gwneud safle da ar gyfer cynllun micro hydro.  Byddwch yn gweld proses gynhyrchu hydro ar raddfa fach yn gweithio, gan ystyried a yw micro hydro yn ddewis addas i chi.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: un diwrnod
  • Dyddiad nesaf: d
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30y.b.a gorffen am 4.00y.p.
  • Ffi: £125
  • Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
  • Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
  • Telerau ac Amodau:
    • Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
    • Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn ystyried y wybodaeth sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn asesu safle, gwerthuso’r ynni posibl a allai fod ar gael, a phenderfynu ar y math perthnasol o dyrbin.  Yn ôl ei natur, mae’n gwrs technegol a rhifol ar y cyfan.

Bydd yr agweddau y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys:

  • Topograffeg safle
  • Asesiad o’r dalgylch a’r glawiad
  • Rhediad yr afon a systemau cronni
  • Gofynion llif cydadfer
  • Cyfradd màs-lifiad a phen sydd ar gael
  • Ffrithiant pibellau a Chyflymder Penodol (gwerthusiad tyrbin)
  • Nodweddion generadur sy’n ofynnol

Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylai’r myfyriwr fod yn gallu cwblhau asesiad safle a thrafod amrediad y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn penderfynu a yw hi’n werth canlyn prosiect neu beidio.  Bydd angen trafod cysylltiad â’r grid a thynnu dŵr gyda’r awdurdodau perthnasol.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.

Searching Availability...