
Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Pympiau Gwres
Mawrth, 08 2025Home » Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd: Pympiau Gwres
Ailfeddwl darpariaeth ynni i aelwydydd – dod i ddeall pympiau gwres.
Yn aml, hysbysebir pympiau gwres fel rhywbeth sy’n cynnig ‘gwres am ddim’ oherwydd gallant gynnig mwy o ynni (fel gwres) am swm bach o ynni (trydan). Dewch i archwilio’r wyddoniaeth, datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur y gostyngiad o ran allyriadau gan bympiau gwres, a fydd yn eich galluogi i benderfynu ai pwmp gwres yw’r dewis cywir i chi.
Gwybodaeth allweddol
Parhau: un diwrnod
- Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 9.30y.b. a gorffen am 4.00y.p.
- Ffi: £125
- Yn cynnwys: hyfforddiant , cinio bwffe
- Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Mae pympiau gwres yn gweithio trwy dynnu gwres o’r aer, y ddaear neu o ddŵr, gan ddibynnu ar y system. Mae’r ffordd y maent yn gwneud hyn yn broses gymhleth, ac mae gosod pympiau gwres yn gofyn am lefel dda o wybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion amrywiol.
Yn ystod y cwrs, byddwn yn archwilio egwyddorion gweithredu pympiau gwres, sut y maent yn gweithio a pha amodau y maent yn gweithio orau ynddynt. Byddwn yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng pympiau gwres ffynhonnell aer, daear a dŵr, gan gyfrifo effeithlonrwydd ynni pob un ohonynt.
Bydd cymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol yn archwilio’r angen am waith dylunio manwl, o’r system a’r adeilad dan sylw. Yn ogystal, bydd y cwrs yn ystyried datblygu dadansoddiad cost a budd a mesur gostyngiadau o ran allyriadau, gan eich galluogi i benderfynu ai pympiau gwres yw’r dewis cywir ar gyfer eich cartref, eich safle cymunedol neu’ch busnes chi.
Mae gwybodaeth sylfaenol o MS Excel (neu raglen gyfatebol) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.
Cyfarfod â’ch tiwtor
Mae Alan yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.
Related events


Creu Dodrefn Paledi
8th Mawrth 2025
Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy
24th Mawrth 2025
Searching Availability...