30th Mehefin 2025 Cwrs byr Ymunwch ag wythnos addysgu myfyrwyr CYDA i archwilio gofynion ynni ac allyriadau carbon gwahanol gyd-destunau rhyngwladol a’u potensial i fodloni eu hanghenion ynni mewn ffordd fwy gynaliadwy.
Darllen MwyHanner Tymor Yr Hydref
Dewch i CyDA yn ystod hanner tymor yr hydref eleni i fwynhau detholiad tymhorol o ddifyrion, o goedwriaeth i wasgu afalau i gadw hadau.
Wrth i’r dail syrthio o’r coed ac wrth iddi nosi’n gynharach, mae’n bryd croesawu’r tymor gyda gweithgareddau gwyliau yr hydref CyDA! Cynhelir gweithgareddau am ddim yn rheolaidd trwy gydol y gwyliau, felly cadwch olwg ar y calendr isod i gael gwybod yr hyn a fydd yn digwydd.
Gwybodaeth allweddol
- Man cyfarfod: Holwch yn y dderbynfa ar y dydd
- Cost: Bydd yr holl weithgareddau yn rhad ac am ddim ar ôl i chi dalu am eich tocyn mynediad.
- Bydd croeso i gŵn
- Bydd ar agor rhwng 10yb a 5yp
- 23 Hydref i 4 Tachwedd
Mwynhewch bryd
Tocynnau Mynediad
- Oedolyn: £9.50
- Consesiwn: £8.50*
- Plentyn (dan 16 oed): £4.50**
- Dan 4 oed: AM DDIM
*Consesiwn: Myfyrwyr, pobl dros 60 oed a phobl ddi-waith.
Sylwer: Rhaid bod oedolyn yn mynychu gyda phob unigolyn dan 16 oed.
Pobl leol
Rydym yn gwerthfawrogi ein cymdogion! Dyna pam ein bod yn cynnig mynediad am ddim trwy gydol y flwyddyn i bawb sy’n byw yn ardaloedd cod post SY19 ac SY20. Yr unig beth y byddwn yn gofyn i chi ei wneud yw cofio dod â rhywbeth gyda chi sy’n nodi eich cyfeiriad.
Aelodau, a gostyngiadau
Nid oes tocynnau rhatach ar gael ar-lein, felly os ydych chi’n aelod o CyDA, os ydych yn teithio i CyDA heb fod mewn car neu os oes gennych chi daleb sy’n cynnig gostyngiad i chi, dewch yma ar y dydd!
Dewch â’ch tocyn trên neu’ch pàs gyda chi pan fyddwch yn ymweld i ddangos eich bod yn gymwys i gael mynediad am ddim/gyda gostyngiad.