Cyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol 2020-21

Cyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol 2020-21


Home » Cyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol 2020-21

Mae ein Hadolygiad Blynyddol diweddaraf sy’n ymdrin â’r flwyddyn Ebrill 2020 – Mawrth 2021 ar gael yn awr i’w ddarllen. Mae’r Adroddiad yn rhoi manylion ein llwyddiannau a’n dylanwad dros y flwyddyn, a gwnaed y cyfan yn bosibl diolch i chi ein cefnogwyr.

Ychydig o’n huchafbwyntiau yn y flwyddyn, y gellir darllen mwy amdanynt yn yr adroddiad llawn:

  • Croesawu rhaglenni Autumnwatch a Winterwatch y BBC i’w lleoliad Cymreig yn ein canolfan eco.
  • Lansio #CyDAoGartref, gan sicrhau y gallem barhau i rannu atebion newid hinsawdd gyda chi yn ystod y cyfnod clo ac wedi hynny. Roedd hyn yn cynnwys ein cyfres hynod boblogaidd o weminarau yn cwmpasu ystod o bynciau, o ynni adnewyddadwy i gyfiawnder hinsawdd.
  • Cofrestru’r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr ar ein cyrsiau ôl-raddedig – 256 o fyfyrwyr ar draws y naw gradd.
  • Datblygu ein Hyb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon, canolbwynt ein hymchwil a sail yr hyfforddiant ar-lein newydd a ddarparwyd ar gyfer dros 500 o bobl.
  • Cyhoeddi ein strategaeth pum mlynedd, sy’n cyflwyno ein cenhadaeth a’n gweledigaeth diwygiedig ar gyfer dyfodol CyDA.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol gyda chi yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys ailddatblygu ein canolfan eco, cynyddu ein gwaith estyn allan a buddsoddi yn ein cyrsiau ôl-raddedig a’n canolfan sgiliau.

Mae ein Cyfrifon Blynyddol hefyd ar gael i’w harchwilio, ac yn rhoi manylion ein ffynonellau cyllid, gan gynnwys cyfraniadau gan unigolion, megis aelodaeth, rhoddion, cymynroddion a rhoddion mewn ewyllysiau. Mae’r Cyfrifon yn dangos sut y mae CyDA yn gwario’r arian a dderbyniwn, ac yn 2020-21, gwariwyd 89% ar weithgareddau elusennol.

Diolch am eich cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, gan helpu CyDA i adeiladu’r dyfodol gwell y gwyddom oll sy’n bosibl.

Darllenwch am ein dylanwad a’n uchafbwyntiau yn ein Hadolygiad Blynyddol.

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.