Llwybr Chwarel

Llwybr Chwarel

Dringwch i fyny drwy goedwig gynaliadwy a reolir i ddarganfod golygfeydd godidog dros droedfryniau Parc Cenedlaethol de Eryri.

Mae Llwybr y Chwarel yn arwain ymwelwyr fry uwchben y Ganolfan Ymwelwyr.  Ar y daith byddwch yn dysgu am systemau dŵr oddi-ar-y-grid cynaliadwy CyDA, yn darganfod bioamrywiaeth lewyrchus CyDA ac yn edrych lawr ar olion Chwarel Llwyngwern a gorffennol hanesyddol y safle.

Teithio yn ôl drwy amser

Nawr yn gartref i raeadrau, coedwigoedd a bywyd gwyllt, gallwch weld cipluniau o hyd o’r archeoleg ddiwydiannol a’r offer chwarela a adawyd ar ôl o’r cyfnod pan oedd CyDA yn chwarel weithredol. Ychydig o gamau ymlaen o’r pwynt gwylio, fe welwch adeiledd llechi bach a ddefnyddiwyd i bwyso’r llechi wrth iddynt adael y chwarel.

Wedi ei adennill gan natur

Ymdrochwch yn y cynefinoedd amrywiol – rhostiroedd, dolydd blodau gwyllt a choedwigoedd llydanddail aeddfed – a dysgwch am y pathewod, y dylluan frech, y fadfall a’r gnocell y coed sy’n galw CyDA yn gartref.

System ddŵr oddi-ar-y-grid

Ar y llwybr, byddwch yn pasio cronfa ddŵr CyDA, ffynhonnell yr holl ddŵr a ddefnyddir ar y safle. Byddwch hefyd yn dysgu am ein systemau hidlo eco a sut y gwneir y dŵr yn ddiogel i’w yfed.

Mae gan bob un o’r llwybrau (byr, canolig a hir) nodweddion unigryw naturiol ac mae rhannau ohonynt yn serth ac anwastad, felly gwisgwch esgidiau addas a chadwch y plant gerllaw.

Teithiau Tywysedig

Ewch am dro ar eich cyflymder eich hun neu holwch wrth y ddesg wybodaeth yn y ganolfan ymwelwyr i weld a oes taith dywysedig wedi ei threfnu.