Fframiau Pren i Bawb

Fframiau Pren i Bawb


Home » Fframiau Pren i Bawb

Meithrin y wybodaeth ymarferol a’r sgiliau allweddol er mwyn adeiladu eich adeilad ffrâm pren eich hun.

Os ydych chi’n bwriadu adeiladu eich cartref eich hun neu’n dymuno dysgu amrediad o sgiliau adeiladu ymarferol, byddwch yn sicrhau’r wybodaeth a’r profiad yr ydych chi’n chwilio amdano ar ein cwrs fframiau pren hynod o boblogaidd.

Gwybodaeth allweddol

  • Amser: dechrau am 9.30am a gorffen am 5pm ar y diwrnod olaf
  • Ffioedd:  £600
  • Nodyn: Nid oes llety ar gael yn ystod y cwrs hwn.
  • Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, mae angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
  • Telerau ac Amodau

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Bydd Prif Saer CYDA a seren George Clarke’s Amazing Spaces, Carwyn Lloyd Jones, yn eich tywys trwy wythnos ysbrydoledig lle y byddwch yn archwilio holl elfennau sylfaenol creu eich cartref eu hun, gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i offer llaw ac offer pweredig.
  • Dysgu sut i adeiladu ffrâm gan ddefnyddio Dull Segal
  • Sgiliau ymarferol
  • Dysgu sut i drosglwyddo lefelau o’r safle i’r ffrâm
  • Inswleiddio’r ffrâm
  • Gosod ffenestr
  • Codi waliau a chario pren yn ddiogel.

Mae’r cwrs yn llawn cyngor defnyddiol, ac ar y diwedd, byddwch yn teimlo’n hyderus ac yn barod i ddefnyddio eich dawn artistig ar eich cartref ffrâm pren eich hun.

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Adeiladu strwythur pyst a thrawstiau 3m x 3m a fydd yn cynnwys to, waliau a llawr gan ddefnyddio Dull Segal.

Searching Availability...