HYFFORDDIANT A DIGWYDDIADAU

PRYDAIN DI-GARBON

Archwiliwch sut y gallwn greu cymdeithas fodern heb allyriadau

Home » Gwybodaeth ac Adnoddau » Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon » Hyfforrddiant a Digwyddiadau – Prydain Di-garbon

Rydym yn rhoi’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau i gynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i’w helpu i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2040. Mae ein cyrsiau a’n digwyddiadau hyfforddi a welir isod yn cael eu datblygu a’u diweddaru’n gyson i gynnwys y syniadau a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae ein hyfforddiant a’n digwyddiadau Prydain Di-garbon yn cael eu mynychu’n rheolaidd gan gyfranogwyr sy’n chwilio am ddealltwriaeth ddyfnach am weledigaeth pwynt terfyn CyDA, a ymchwiliwyd yn fanwl, ar gyfer cymdeithas sero net, a sut i’w chyflawni. Yn y digwyddiadau hynod rhyngweithiol hyn, rhennir syniadau am y camau y gallai cyfranogwyr eu cymryd tuag at y weledigaeth honno, a ddatblygwyd drwy astudiaethau achos, enghreifftiau bywyd go iawn a dysgu wrth gymhreiriaid a chyfranogwyr eraill.  

Porwch drwy ein detholiad o gyrsiau cyfredol i weld pa rai sy’n gweddu orau i’ch anghenion a’ch diddordebau chi, neu cysylltwch â ni i drafod opsiynau hyfforddi pwrpasol neu syniadau am hyfforddiant arall yr hoffech i ni ei gynnig.

Dau berson mewn harneisiau yn gweithio ar hwb tyrbin gwynt

Hwb Adnoddau Prydain Di-garbon

Ar gael yn rhwydd ar-lein - ysbrydoliaeth, offer, adroddiadau, canllawiau, hyfforddiant, gweminarau a mwy i gefnogi eich gweithredu dros sero net.
Cyrchu’r Hwb
Adroddiadau Prydain Di-garbon

Pob Adroddiad

Mae ein holl adroddiadau Prydain Di-garbon yn canolbwyntio ar atebion ac yn archwilio’r rhwystrau posib i gyrraedd Prydain Di-garbon, a sut y gellir eu goresgyn.
Darllen Mwy
Pedwar person mewn sesiwn grŵp mewn cynhadledd

Labordy Arloesi Prydain Di-garbon

Dod â grwpiau aml-randdeiliaid ynghyd i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o wneud pethau fydd yn gwneud i sero net ddigwydd.
Dysgu Mwy

Newyddion diweddaraf o CyDA

Roedd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn aelod o’r tîm creadigol ar gyfer cyfnod ymchwilio a datblygu cychwynnol cais llwyddiannus Collective Cymru i fod yn rhan o Festival UK* 2022.

Darllen Mwy

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.