Gweithgareddau i’r Teulu

Home » Ymweld â CyDA » Gweithgareddau i’r Teulu

Mae digon o hwyl i’r teulu cyfan yn CyDA! Gallwch ddiddanu a chreu diddordeb yn hyd yn oed aelod ieuengaf y teulu wrth ddarganfod sut y gallwn gydweithio i greu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy.

Archwilio ein coedwigoedd a’n tir ac ymgysylltu â natur. Ac i aelodau o’r teulu sydd angen math arall o ymgysylltu, mae Wi-Fi ar gael ar draws y rhan fwyaf o’r safle.

Mynnwch bicnic ac archwiliwch erddi a choedwigoedd gwyllt CyDA er mwyn darganfod cornel cyfrin ar gyfer mwynhau cinio teuluol.

cliff railway

Cyrhaeddwch mewn steil

Mae ein rheilffordd cydbwysedd dŵr yn un o’r rhai mwyaf serth yn y byd gyda graddiant o 35°. Mae’n syml – parciwch yn y maes parcio gwaelod, talwch am eich tocyn mynediad, dilynwch y cyfarwyddiadau i’r cerbyd ac yna ymlaciwch a mwynhau’r olygfa hyfryd wrth i chi ddringo gan bwyll.
Interactive wind display

Dysgu Drwy Chwarae

Cychwynnwch ar daith ddarganfod a dysgu mwy am ddefnyddio a chynhyrchu ynni, ailgylchu, a’r ddaear islaw eich traed (y pridd) gyda'n harddangosfeydd rhyngweithiol sy’n hwylus ac hefyd yn addysgiadol.
playground

Maes chwarae antur

Cynhwysyn hanfodol ar gyfer unrhyw ddiwrnod allan gyda’r teulu! Gall y plant redeg yn wyllt ym maes chwarae antur CyDA sydd wedi ei leoli nid nepell o’r caffi.

Danteithion blasus ffres wedi’u pobi yn ein Caffi.

Caffi Llysieuol

Tretiwch eich hun yn CyDA gyda phryd blasus, danteithion wedi’u pobi, coffi barista a dewis helaeth o ddiodydd twym ac oer yn ein caffi llysieuol.

Tyfir nifer o’r llysiau ar y safle. Mae dewisiadau figan a heb glwten, a dewisiadau ar gyfer gofynion dietegol eraill ar gael.

Plant yn rhedeg ar Lwybr y Chwarel yn CyDA

Crwydro o gwmpas llwybr y chwarel

Gwisgwch eich esgidiau cerdded a chychwyn ar antur o gwmpas Llwybr Chwarel CyDA. Llwybr troed hawdd sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda ac sy’n arwain ymwelwyr drwy goedwig brydferth i fyny i’r bryniau o gwmpas CyDA gan ddatgelu golygfeydd trawiadol o’r ardal o amgylch.
child green woodworking

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.