Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu

Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu


Home » Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu

Cynllunio didrafferth ar gyfer eich prosiect adeiladu

Os ydych yn ystyried adeiladu eich cartref eich hun, gofod cymunedol neu adeilad hunan-adeiladu arall, mae’n talu i baratoi. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â sut i greu cynllun prosiect, cyllideb a chynllun iechyd a diogelwch, yn ogystal â hanfodion caniatâd cynllunio, arolygon adeiladu a rheoli safle.

Gwybodaeth Allweddol

  • Parhau: dau ddiwrnod
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 10am a gorffen am 4pm ar y diwrnod olaf
  • Ffi: £295
  • Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, llety a rennir a phob pryd bwyd (llety sengl ar gael am £20 y pen y nos yn ychwanegol)
  • Beth sydd ei angen arnoch: llyfr nodiadau a phen.

Telerau ac Amodau:

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Ymunwch â’r arbenigwr hunan-adeiladu Geoff Stow am arweiniad ymarferol ar reoli eich prosiect.

Dysgwch sut i greu cynllun prosiect ar gyfer eich adeiladwaith, pa elfennau allweddol y dylech eu cynnwys, pryd y dylai tasgau allweddol ddigwydd a pha mor hir y maent yn debygol o gymryd. Byddwch hefyd yn dysgu am y dibyniaethau allweddol rhwng tasgau fel y gallwch nodi llwybr critigol a chyfrifo’r amser y dylai eich prosiect gymryd.

Byddwn yn archwilio effeithiau peidio â gwneud pethau penodol mewn pryd a’r camau y gellir eu cymryd i adennill amser.

Bydd prosesau cynllunio a chymeradwyo’r DU yn ogystal â’r rheoliadau adeiladu a’r arolygon rheoli yn cael eu hesbonio. Byddwn hefyd yn eich helpu i ddeall sut i sefydlu a rheoli eich cyllideb a hawlio ad-daliad TAW.

Byddwn yn dangos sut i amcangyfrif costau a chael dyfynbris am rai eitemau allweddol, a sut i ddewis a chydweithio gyda chyflenwyr. Byddwn yn ymdrin â’r gofynion iechyd a diogelwch, sy’n dibynnu ar bwy sy’n gwneud y gwaith, a beth mae’n ei olygu i fod yn brif gontractwr.

Byddwch yn gadael gyda rhestr wirio ar gyfer paratoi eich safle a rheoli gwastraff eich safle.

Ynghlwm yn yr holl gwrs y mae ethos cynaliadwyedd ac egwyddorion adeiladu moesegol, a byddwn yn gofalu eich bod yn gwybod ble i gael cymorth os bydd ei angen.

Dros y penwythnos byddwch yn creu cynllun prosiect, cyllideb a chynllun iechyd a diogelwch drafft, y gallwch eu datblygu ymhellach ar gyfer eich prosiect eich hun.

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Geoff Stow yn diwtor ar ein cyrsiau Hunan-adeiladu Ffrâm Bren a Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu.

Adeiladodd Geoff ei gartref ei hun yn Llundain drwy gynllun hunan-adeiladu nifer o flynyddoedd yn ôl. Aeth ymlaen i reoli safleoedd cynlluniau hunan-adeiladu eraill yn Llundain a Brighton. Mae’n cynnal cyrsiau hyfforddi ac yn cynnig cyngor i hunan adeiladwyr trwy ei gwmni ymgynghoriaeth BIY.

Mae wedi gweithio fel swyddog datblygu ar gyfer Ymddiriedolaeth Hunan-adeiladu Walter Segal, ac mae wedi bod yn aelod o bwyllgor yr AECB (Cymdeithas dros Adeiladu Amgylcheddol Ymwybodol)

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr?  Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

  • Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £80 sengl
  • Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs – £97 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...