6th Mai 2025 Cwrs byr Archwilio atebion hinsawdd, creu cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch gwaith, ac ennill ardystiad Llythrennedd Carbon – ar ein cwrs arlein.
Darllen MwyCYFRIFIAD NATUR MAWR
Hanner Tymor mis Mai yn CyDA
29 Mai – 2 Mehefin
Dewch i CyDA yn ystod hanner tymor Mai a’n helpu ni i archwilio’r bywyd gwyllt sy’n galw CyDA’n gartref!
Rydym ar genhadaeth ac rydym angen eich helpu chi!! Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn chwilio am, ac yn cofnodi, pob math o adar a chreaduriaid er mwyn canfod pwy sy’n byw yn y cynefinoedd amrywiol a geir yng ngerddi, coetiroedd, pyllau a mannau eraill yn CyDA.
Bydd pob diwrnod yn cychwyn gyda rhyddhau gwyfynod a thaith adar boreol ac yn gorffen drwy grynhoi gwybodaeth ym Mhencadlys y Cyfrif Natur Mawr. Cynhelir digwyddiadau ychwanegol yn ddyddiol fydd yn canolbwyntio ar wahanol rywogaethau felly edrychwch ar yr amserlen isod i weld beth sydd ymlaen!
Bydd yr hyn a welwch yn cyfrannu at astudiaethau ecolegol pwysig gan y byddwn yn lanlwytho’r data i gronfa ddata genedlaethol. Byddwn yn canolbwyntio ar adar, creaduriaid y pyllau ac infertebratau gan ddefnyddio pob math o ddulliau diddorol a phleserus i’w hadnabod a’u cofnodi.
Ewch draw i Bencadlys y Cyfrifiad Natur i gasglu eich offer archwilio bywyd gwyllt cyn bwrw allan ar eich antur. Chwyddwydrau a chwadratau yn eich llaw!
Mae’r holl weithgareddau am ddim gyda’ch tocyn mynediad.
Ymlaen Pob Dydd (dydd Llun i ddydd Gwener)
10:30yb – 11yb – Adnabod cynnwys y Trap Gwyfynod a’u Rhyddhau
Gofalwch bod eich llyfrau adnabod a’ch chwyddwydrau’n barod pan fyddwn yn rhyddhau ein hymwelwyr nos! 11yb – 12yp – Taith Adar 3yp – 5yp – Pencadlys y Cyfrifiad Natur Mawr |
Digwyddiadau Arbennig
Dydd Llun 29 Mai Dydd Mawrth 30 Mai Dydd Mercher 31 Mai Dydd Iau 1 Mehefin Dydd Gwener 2 Mehefin |
Darganfyddwch fannau cyfarfod y digwyddiadau yn y dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd.
Mae pob gweithgaredd am ddim gyda’ch tocyn mynediad.