Yn Pasg yn CyDA

Dewch i CyDA yn ystod gwyliau’r Pasg a chymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau i’r teulu!

Yma yn CyDA dros wyliau’r Pasg, byddwn yn darganfod byd tanddwr ein pyllau, yn archwilio byd y peillwyr ac yn adeiladu gerddi bychain.

Ymdrochwch ym mhrydferthwch gerddi a choetiroedd CyDA ar adeg pan fydd arwyddion o’r gwanwyn yn ymddangos ymhob man a natur yn deffro ar ôl misoedd hir y gaeaf. Gwisgwch eich esgidiau a throedio llwybr y chwarel i ganfod golygfeydd godidog o’r dyffryn islaw, neu mwyhewch heddwch y gerddi a’r pyllau yn y gwanwyn.

Mae mynediad i’r safle ar hyd rheilffordd clogwyn cydbwysedd dŵr eiconig CyDA – un o’r rheilffyrdd clogwyn mwyaf serth yn y byd! Mae’n eich cludo o’r maes parcio islaw i fyny i’r bryniau a chanolfan ymwelwyr CyDA.

Gyda hyn oll, maes chwarae antur a bwyd blasus yng nghaffi CyDA, fe gewch bopeth sydd ei angen i gadw’r teulu’n hapus y Pasg hwn.

Yn Pasg yn CyDA